Eirlys WynJONESHunodd yn dawel, 27ain o Ragfyr 2025 yn 82 mlwydd oed yng Nghartref Nyrsio Plasgwyn, Pentrefelin ac o Tyddyn Eithin (Rhedynog gynt) Chwilog.
Priod ffyddlon y diweddar Griff, mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Lynne a Dei, Iolo a Rachel, a Non ac Iolo. Nain annwyl Tomos, Alys, Morgan, Catrin, Dafydd, Lydia, Nel a Seimon a'i partneriaid Catrin, Kieran, Dafydd, Rich a Marged. Hen-nain annwyl i Mair, Ellis a Iorwerth a chwaer hoffus Edwen a Dic, chwaer-yng- nghyfraith i Gwenda a Tudor a chyfaill da i lawer un.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor fore Gwener, 23ain o Ionawr 2026 am 10.00 o'r gloch.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Eirlys tuag at Ymchwil Clefyd Motor Niwron a Nyrsys Macmillan trwy law yr ymgymerwr (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion). Ifan Hughes Trefnwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn. Ffôn: 01758750238
Keep me informed of updates